Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

10th July 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos hon yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Fydd dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i'r sesiwn hyfforddi beicio nos Iau. **
Bydd Clwb Plant y Tri Arth ymlaen fel arfer.

Dydd Llun:

Bydd rhai disgyblion yn mynd i ymarfer yn Theatr y Congress heddiw. Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda. Byddant yn cerdded i'r theatr ac yn ôl.
(Mae'r disgyblion sy'n mynd wedi derbyn llythyr. Os nad ydyn ni'n derbyn llythyr caniatâd yn ôl yfory, yn anffodus, fydd y disgyblion methu mynd i'r ymarfer.

Dydd Mawrth:

** Dim ymarfer ar ôl ysgol. **

Dydd Mercher:

Gwersi Cymraeg i rieni. (9-11)

Bydd plant blwyddyn 2 yn mynd i Jambori'r Urdd heddiw. Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol os gwelwch yn dda. Bydd y plant yn bwyta cinio cyn mynd a byddant yn ôl erbyn diwedd y dydd.

Bowlio Blwyddyn 6:
Mae'r P.T.A. wedi talu i bob disgybl ym mlwyddyn 6 i gael gem o fowlio a bwyd yn Bowlplex, Cwmbrân rhwng 4:30 a 6:30 nos Fercher. Byddwn yn cwrdd â'r disygblion yno am 4:30. Gallant wisgo dillad eu hunain yno. Mae'r disgyblion wedi derbyn llythyr am hwn.

Dydd Iau:

Dim gwers nofio heddiw.

Clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Gwener:

Taith y derbyn i Walnut Tree Farm. Bydd angen i'r plant wisgo gwisg ysgol os gwelwch yn dda a bydd angen pecyn cinio ar bob un, yn ogystal â het, eli haul a digon o ddwr.

Prawf Beicio:
Bydd y rhai sydd wedi bod yn derbyn gwersi beicio yn cael prawf am 1:30 heddiw.
Bydd y digyblion angen eu beic yn yr ysgol heddiw.

Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd. 50c yr un.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr