Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

14th July 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth ond does dim clybiau o gwbl ar ôl ysgol dydd Mercher. **

Dydd Llun:

Bydd y feithrin yn mynd ar eu taith diwedd blwyddyn i Zoopadoopa yng Nghwmbrân. (Gweler y wefan isod.)
Meithrin Bore: 10-12
Meithrin Prynhawn: 1-3
(Byddwn yn cwrdd â'r plant yno. Diolch)

Bydd disgyblion CA2 yn cerdded i Theatr y Congress ar gyfer ymarfer y 'Llew Frenin' heddiw. Bydd angen i'r disgyblion wisgo eu gwisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda.
(Mae'r disgyblion i gyd wedi derbyn llythyr. Os nad ydym yn derbyn llythyr caniatâd erbyn dydd Llun, yn anffodus ni fydd y disgyblion yn gallu dod.)

Dydd Mawrth:

Bydd disgyblion CA2 yn cerdded i Theatr y Congress ar gyfer ymarfer y 'Llew Frenin' heddiw. Bydd angen i'r disgyblion wisgo eu gwisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda.
(Mae'r disgyblion i gyd wedi derbyn llythyr. Os nad ydym yn derbyn llythyr caniatâd erbyn dydd Mawrth, yn anffodus ni fydd y disgyblion yn gallu dod.)

Perfformiad 1 o'r Llew Frenin: 1pm
Perfformiad 2 o'r Llew Frenin: 6pm

Bydd y disgyblion yn y theatr yn barod ar gyfer y perfformiad cyntaf gan ein bod ni yno yn y bore ar gyfer ymarfer. Gofynnwn yn garedig iddynt gyrraedd erbyn 5:30 ar gyfer yr ail berfformiad.

Byddwn yn cerdded yn ôl i'r ysgol ar ôl y perfformiad yn y prynhawn. (Os ydych yn mynd i wylio yn y prynhawn, gallwch fynd â'ch plentyn gyda chi.) Efallai byddwn yn cyrraedd yn ôl i'r ysgol ychydig yn hwyrach na 3:30 ond byddwn yn danfon SCHOOP ar y ffordd yn ôl er mwyn rhoi gwybod i rieni pryd fyddwn yn cyrraedd yn ôl.)

Dydd Mercher:

** Byddwn yn gorffen ar gyfer y gwyliau haf heddiw. Bydd yr ysgol yn cau am 2 o'r gloch. **

Hysbys ar gyfer mis Medi:
Gan fod Roald Dahl yn dathlu pen-blwydd arbennig ym mis Medi, bydd ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig yn dathlu ei ben-blwydd ar Fedi'r 13eg. Byddwn yn gofyn wrth y disgyblion i wisgo fel un o gymeriadau Roald Dahl ar y diwrnod hwn. (Llythyr i ddilyn ym mis Medi.)

Bydd dau ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd ar Fedi'r 1af a'r 2il.
Bydd y disgyblion yn dechrau'n ôl yn yr ysgol ar ddydd Llun, Medi'r 5ed.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Mwynhewch y gwyliau haf ac edrychwn ymlaen at groesawu'r disgyblion yn ôl i'r ysgol ym mis Medi.

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr