Adroddiad yr Arolwg

Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd a gynhelir, dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996.

Caiff pob ysgol ei harolygu o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Swyddogaeth arolygiad dan Adran 10 y Ddeddf yw adrodd ar:

  • y safonau addysgol a gyflawnir yn yr ysgol;
  • ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol;
  • ansawdd yr arweinyddiaeth yn yr ysgol a'r rheolaeth ohoni, gan gynnwys a yw'r adnoddau ariannol a ddarperir i'r ysgol yn cael eu rheoli mewn ffordd effeithlon neu beidio; a
  • datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn yr ysgol.

Cafodd Ysgol Gymraeg Cwmbrân ei harolygu ddiwethaf ym mis Mai, 2019. Mae adroddiad llawn o'r Arolygiad ar gael ar wefan Estyn. Rydym wedi cynnwys yr holl ddogfen isod yn ogystal.