Clybiau:
Mae nifer o bethau diddorol yn digwydd tu fas i oriau'r ysgol. Yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân rydyn ni'n credu'n gryf mewn addysg gyflawn y plentyn a bod gwneud gweithgareddau allgyrsiol yn gallu arwain at hyn. Mae gennym glybiau rygbi, pêl droed, pêl rwyd a llawer mwy.
Clwb y Tri Arth yw y clwb carco Cymraeg sydd wedi ei sefydlu ar safle'r ysgol. Mae'r clwb yn rhedeg ar ôl ysgol tan 6yh bob nos.
2018 - 2019:
Clybiau sydd ar gael yr hanner tymor hwn:
Dydd Llun:
Clwb chwaraeon i blant blwyddyn 2 rhwng 3:30 a 4:30.
(Mae'r clwb hwn yn cael ei redeg gan yr Urdd.)
Dydd Mawrth:
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 rhwng 12:30 a 1.
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (£1)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 a 1.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.
Clwb yr Urdd rhwng 3:30 a 4:30. (Disgyblion CA2)
Clwb pêl-rwyd rhwng 3:30 a 4:30. (Disgyblion CA2)
Dydd Iau:
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Clwb Codio yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Diolch.
Dyma rai o'r chwaraeon sydd ar gael yn ystod y clwb chwaraeon ar y funud:
Gwefannau perthnasol:
Dyma restr o wefannau am chwaraeon yn yr ardal leol:
Last Updated: 8th January 2019 2:07pm