Ein Gwisg Ysgol
Mae gosod safonau yn un o’n blaenoriaethau fel ysgol ac rwy’n siwr y cytunwch bod ymddangosiad y disgyblion yn arwain at falchder yn yr ysgol a chyda disgyblaeth dda yn cydredeg â chynnal safonau academaidd.
Coch a llwyd yw lliwiau’r ysgol a gallwch archebu’r wisg ar gyfnodau penodol drwy’r ysgol.
Dylai esgidiau fod yn ddu – nid yw esgidiau ymarfer yn rhan o’r wisg ysgol.
Sanau gwyn neu ‘tights du/coch i’r merched, sanau llwyd i’r bechgyn.
Nid yw trowsus chwaraeon yn rhan o’r wisg ysgol.
Fe ddylai unrhyw addurn gwallt fod yn goch neu’n wyn.
Ni chaniateir gemau ag eithrio oriawr a chlustlysau bach.
Does neb i wisgo het / cap neu fandana y tu mewn i’r adeilad heb ganiatad y Pennaeth.
Gallwch siopa ar gyfer ein gwisg ysgol yn siop Pretty Miss yng Ngwhmbrân.

Crys Polo gwyn yr ysgol
Crys Polo coch yr ysgol
Cot yr ysgol
Crys Chwys yr ysgol
Cardigan yr ysgol
Ffrog haf yr ysgol
Crys T yr ysgol
Tei yr ysgol
Cap yr ysgol
Het sgio yr ysgol
Bag yr ysgol
Bag ymarfer corff