Llywodraethwyr a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon

Swyddogaeth y Corff Llywodraethol

Mae'r Llywodraethwyr yn cwrdd yn rheolaidd ac maent yn derbyn adroddiad manwl gan y Pennaeth am waith yr ysgol. Mae’r Llywodraethwyr yn trafod materion yr Awdurdod Addysg a materion Cenedlaethol. Mae copi o'r munudau ar gael yn yr ysgol.

Mae'r Llywodraethwyr yn mynychu nifer o ddigwyddiadau yn yr ysgol. Maent hefyd yn barod iawn i gynorthwyo ac i gefnogi'r ysgol pan fydd angen.

Y Corff Llywodraethol

Enw Yn cynrychioli
Mrs Jo Lewis A.A.Ll
Mrs Lisa Baulch A.A.Ll
Mr Dale Matthews A.A.Ll
Mr Paul Roberts Cyfethol
Mr Guto Aaron Cyfethol
Mrs Leanne Davies-Palmer Rhieni
Miss Holly Norman Rhieni
Ms Karen Bengough Rhieni
Mrs Janet Walker Staff
Miss Catrin Evans Pennaeth
Mrs Kath Worwood Clerc

Cyfarfodydd C.Rh.A

Rydym yn ffodus iawn i gael Cymdeithas Rhieni ac Athrawon (CRhA) sydd wedi bod ac sydd yn rhan allweddol o gymuned yr ysgol am nifer o flynyddoedd. Yn ei hamser, mae'r GRhA wedi codi miloedd o bunnoedd sydd wedi'i wario ar adnoddau ac offer i wella awyrgylch dysgu ein disgyblion ac ychwanegu ato.

Gyda eich cymorth chi, gallwn barhau i wneud hynny.

Rydym yn annog holl deuluoedd yr ysgol i ymuno gyda ni mewn gwahanol gyfarfodydd a gweithgareddau, dim ots faint o amser gall unrhyw un roi.

Rydym yn awyddus i ddarparu a meithrin cysylltiadau agos rhwng yr ysgol a'r cartref ac mae'r GRhA yn ffordd arbennig o ddod a staff, rhieni a ffrindiau at ei gilydd yn gymdeithasol i gefnogi'r ysgol, yn gweithio tuag at gôl cyffredin.

Cefnogwch yr ysgol drwy siopa ar lein. Os ydych chi'n siopa ar lein, gallwch fod yn gwneud arian i'r ysgol drwy fynd trwy wefan Easyfundraising.

Mae'n rhad ac am ddim ac yn hawdd i'w ddefnyddio. Cefnogwch ni heddiw os gwelwch yn dda drwy cofrestru ar y wefan www.easyfundraising.org.uk.

Cefnogwch 'Ysgol Gymraeg Cwmbran PTA.'

Diolch yn fawr.