Cwis Llyfrau 2019:

Cwis Llyfrau 2019:

26th June 2019

Da iawn i'r disgyblion a gymerodd ran yn y cwis llyfrau heddiw.

Aeth wyth disgybl o flynyddoedd 5 a 6 i gymryd rhan yn y Cwis Llyfrau yn Aberystwyth heddiw. Enillodd y disgyblion y rownd gyntaf rai misoedd yn ôl a heddiw, roeddent yn cynrychioli Gwent yn y rownd genedlaethol. Perfformiodd a thrafododd y disgyblion yn wych ac rydym yn falch iawn ohonynt i gyd.

Da iawn i'r tîm a diolch i Miss Heledd Williams am ei holl waith caled gyda'r paratoi.

Da iawn.


^yn ôl i'r brif restr