Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

11th July 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân, yr wythnos olaf cyn gwyliau'r haf.

* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Dydd Llun:
Cyfarfod blynyddol y Gymdeithas Rieni am 3:30 yn llyfrgell yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.
* Disgyblion blynyddoedd 4 a 5: Rydym yn casglu blaendal Llangrannog (£30) erbyn heddiw os gwelwch yn dda. *
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn sesiwn am newidiadau i'r corff heddiw.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Kerbkraft i blant blwyddyn 2.

Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Bydd aelodau o'r Gymdeithas Rieni yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd heddiw. (50c yr un)

Dydd Iau:
Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4.
Gwasanaeth gadael disgyblion blwyddyn 6 - 09:30 yn neuadd yr ysgol.
(Gofynnwn i ddisgyblion blwyddyn 6 wisgo dillad du os gwelwch yn dda.)
Gwasanaeth Upbeat am 2:45.
(Mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr.)
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Bowplex, Cwmbrân ar ôl ysgol.
(Byddwn yn cwrdd â'r disgyblion yno am 4:15 a bydd y sesiwn yn gorffen am 5:45.)

Dydd Gwener:
Gall y disgyblion wisgo gwisg anffurfiol i'r ysgol heddiw.
Diwrnod ola'r flwyddyn. Byddwn yn gorffen am 3:30 fel arfer.
Bydd Clwb Plant y Tri Arth yn cau am 5 o'r gloch heddiw.

Gobeithio y cewch chi gyd wyliau haf hyfryd.
Bydd yr ysgol yn ail ddechrau ar ddydd Mercher, Medi'r 4ydd.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr