Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

4th July 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Dydd Llun:
* Mabolgampau: Bydd plant y Cyfnod Sylfaen yn cystadlu yn y bore a disgyblion CA2 yn y prynhawn. Bydd plant meithrin y prynhawn yn cystadlu yn y prynhawn. *
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff / lliwiau'r llysoedd os ydynt yn dymuno.
Dim clwb 'Pound Fit' ar ôl ysgol.

Dydd Mawrth:
Taith diwedd blwyddyn dosbarthiadau Miss Thomas, Miss Sheppeard a Mrs Dalgleish.
(Bydd angen i'r plant wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.)
Bydd PC Smith yn cynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 4 heddiw.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn treulio sesiwn yn y parc lleol prynhawn 'ma.
Bydd cwmni Noson Allan yn cyflwyno'r ddrama, 'Gwlad y ddraig', yn yr ysgol heno - 6 o'r gloch yn neuadd yr ysgol. Croeso i bawb.

Dydd Mercher:
Gwasanaeth diwedd blwyddyn:
Dosbarthiadau Miss H Williams a Mr Price - 09:30 yn neuadd yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Aqualathon i rai o ddisgyblion blwyddyn 5 yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
* Arddangosfa gelf disgyblion Cyfnod Allweddol 2 - neuadd yr ysgol rhwng 3:30 a 4:30. Croeso i chi ddod i'r neuadd er mwyn gweld gwaith celf eich plentyn yn cael ei arddangos. *
Bydd disgyblion dosbarth Mrs Lewis yn treulio sesiwn yn y parc lleol prynhawn 'ma.
Disgo y Gymdeithas Rieni ac Athrawon: 6 tan 7 yn neuadd yr ysgol. £1. Croeso cynnes i bawb.

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarthiadau Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Sesiwn feicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.

Dydd Gwener:
Cyngerdd ffidil dosbarth Miss Wena Williams - 09:30 yn neuadd yr ysgol.
Taith diwedd blwyddyn blynyddodd 3 a 4 i Gaerdydd.
(Bydd angen i'r disgyblion wisgo crys T yr ysgol a gallant wisgo siorts / trowsus os ydynt yn dymuno a bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Taith y feithrin i Cheeky Monkeys.
Prawf beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 sy'n cymryd rhan.
Bydd aelodau o'r Gymdeithas Rieni yn gwerthu hufen iâ ayyb ar yr iard ar ddiwedd y dydd. (50c)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr