Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

30th June 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:

Bydd yr arweinwyr digidiol yn derbyn gweithdy ar e-ddiogelwch gan PC Thomas bore 'ma.

Bydd adroddiadau diwedd blwyddyn yn cael eu danfon adref heddiw, ynghyd â llythyr yn nodi dosbarth eich plentyn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dydd Mawrth:

Bydd y disgyblion yn treulio rhan o'r bore yn eu dosbarthiadau newydd.

Clwb coginio i ddosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)

Ymarfer ar gyfer yr actorion ar gyfer 'Lion King' tan 4:30.
(Mae'r plant sy'n gorfod aros wedi derbyn llythyr - yr un plant a wythnos diwethaf.)

Dydd Mercher:

Gwersi Cymraeg i rieni. (9-11)

DIM CLWB YR URDD gan fod Mabolgampau'r Urdd.

Mabolgampau'r Urdd yn Stadiwm Cwmbrân ar ol ysgol rhwng 4:15 a 6.
Mae'r disgyblion sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr yn barod.
Bydd angen i'r disgyblion wisgo trowsus / siorts du a chrys T coch os gwelwch yn dda.
Gofynnwn yn garedig i rieni godi'r disgyblion o Stadiwm Cwmbrân am 6 o'r gloch.
Croeso i chi ddod i gefnogi.

Bydd pedwar aelod o flwyddyn 6 yn treulio'r diwrnod yng Ngwynllyw er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth Dylunio a Thechnoleg ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.

Hawl i Holi ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
Bydd disgyblion o flwyddyn 7 yn dod i gynnal sesiwn cwestiwn ac ateb gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw.

Dydd Iau:

Gwasanaeth Blynyddoedd 1 a 2.

Bore: 09:30 - rhieni / gwarchodwyr plant blwyddyn 1.
Prynhawn: 2pm - rheini / gwarchodwyr plant blwyddyn 2.

Gwers nofio heddiw ar gyfer dosbarth Miss Griffiths.

Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 rhwng 3:30 a 5.

Dydd Gwener:

Cyngerdd ffidil dosbarth Mrs Dalgleish bore 'ma.
09:10 yn neuadd yr ysgol.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. 50c.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr