Wythnos Menter a Busnes Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Wythnos Menter a Busnes Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

30th June 2016

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur iawn yn yr ysgol yr wythnos hon.

Mae'r disgyblion wedi bod yn brysur iawn yn dylunio, datblygu a gwneud cynnyrch ar gyfer y Ffair Haf yfory.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi cael nifer fawr o bobl busnes lwyddiannus mewn yn yr ysgol yn sôn am eu gwaith ac yn cynnal gweithdai gyda'r disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys:

Sara o Gwmni Shnwcs
Nyrs
Blogiwr You-tube
Gareth o Stwnsh

a nifer fawr o bobl eraill.

Mae blwyddyn 2 wedi bod yn brysur iawn yn cynnal caffi yn yr ysgol o ddydd Mawrth hyd at ddydd Iau ac mae'r caffi wedi bod yn brysur iawn bob dydd.

Diolch yn fawr i'r tîm Dyniaethau am eu holl waith caled gyda'r trefniadau.

Gobeithiwn eich gweld chi'n y ffair yfory.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr