Taith Llangrannog ar gyfer blynyddoedd 4 a 5:

Taith Llangrannog ar gyfer blynyddoedd 4 a 5:

21st June 2016

Bydd disgyblion blynyddoedd 4 a 5 i gyd yn derbyn llythyr heno am daith yr Urdd i Langrannog ym mis Hydref.

Bob blwyddyn, mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn cael cyfle i fynd ar daith i Langrannog sef gwersyll yr Urdd yng Ngorllewin Cymru. Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 a’r holl ysgolion Cymraeg sy’n bwydo Gwynllyw yn mynd ar y daith. Eleni, mae’r daith penwythnos i Langrannog rhwng y 7fed a’r 9fed o Hydref.

Cost y daith fydd £146 a bydd hwn hefyd yn cynnwys cost aelodaeth yr Urdd, sef £6.50, am y flwyddyn. Yn gynwysedig yn y pris hwn bydd holl fwyd y penwythnos, yswiriant, costau teithio, dros ddeg o weithgareddau a dwy noson yn y gwersyll.

Bydd y disgyblion yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau dros y penwythnos megis sgïo, gwibgartio, nofio, merlota, saethyddiaeth ayyb. Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y rhwyglen isod a blaendal o £30 cyn dydd Gwener, y 15eg o Orffennaf. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ad-dalu’r blaendal o £30 os nad yw eich plentyn yn dod.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.
Diolch, Miss Passmore.

(Ceir copi o'r llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.)


^yn ôl i'r brif restr