Archebu'r wisg ysgol:

Archebu'r wisg ysgol:

17th June 2016

Mae'r disgyblion wedi derbyn llythyr heno gyda ffordd newydd o brynu'r wisg ysgol. Ceir crynodeb o'r polisi gwisg ysgol yn ogystal.

Credwn bod y wisg ysgol yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau disgyblaeth dda ac wrth sicrhau cysondeb a chydraddoldeb ar draws yr ysgol. Gyda’r llythyr hwn, danfonwyd crynodeb o’n polisi gwisg ysgol a gofynnwn i rieni a gwarchodwyr geisio sicrhau bod y disgyblion yn gwisgo’r wisg ysgol gywir i’r ysgol bob dydd. (Ceir copi yn yr adran polisiau ar y wefan.)

Fel rydych chi’n gwybod, gallwch brynu ein gwisg ysgol o siop ‘Little Miss’ yng Nghwmbrân ond rydym hefyd wedi penderfynu treialu gwefan newydd sef gwefan uniformeasy. Trwy’r wefan hon, gellir prynu crys-T gyda bathodyn yr ysgol arno, siwmper neu gardigan gyda bathodyn yr ysgol arnynt a bag chwaraeon gyda’r bathodyn.

Os ydych yn mynd ar y wefan, gallwch archebu unrhyw eitemau o wisg yr hoffech chi a bydd y dillad hyn yn cael eu harchebu gyda’i gilydd ac yn gael eu gollwng i’r ysgol pan mae’r archeb yn barod. www.uniformeasy.com/401450.

Yn anffodus, nid ydym yn gallu newid maint y dillad neu eu newid am rai eraill felly gofynnwn yn garedig i chi sicrhau eich bod wedi archebu’r maint cywir cyn i chi dalu. Byddwn yn eich hysbysu chi pan mae’r eitemau yn barod i’w casglu o’r ysgol. Dylai’r archeb gymryd dim mwy na 21 diwrnod ar ôl y dyddiad isod.

** Rhaid i’r archebion fod mewn erbyn dydd Gwener, Mehefin 24ain ar gyfer sicrhau eu bod yma cyn diwedd y flwyddyn. Byddwn yn rhoi archeb arall ym mis Medi hefyd. Fydd unrhyw eitemau sy’n cael eu harchebu ar ôl y dyddiad hwn ddim yn cael eu harchebu tan fis Medi. **

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi neu os ydych chi eisiau unrhyw help gyda’ch archeb, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.

Diolch, Miss Passmore


Related Links


^yn ôl i'r brif restr