Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

17th June 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:

Bydd y frigâd dân yn ymweld gyda phlant blwyddyn 1 heddiw.

Ymarfer côr tan 4:30.

Dim Clwb Drama ar ôl ysgol.

Taith Blwyddyn 4 i lyfrgell Cwmbrân.
Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn cerdded i lyfrgell Cwmbrân prynhawn ‘ma.
Bydd y disgyblion yn ôl erbyn diwedd y dydd a byddant yn bwyta cinio yn yr ysgol fel arfer.

Taith Blwyddyn 6 i Wynllyw:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw ar gyfer diwrnod o wersi.
Bydd angen iddynt wisgo eu gwisg ysgol a bydd angen pecyn cinio arnynt os gwelwch yn dda.

Dydd Mawrth:

Mabolgampau y Cyfnod Sylfaen: *Wedi eu gohirio tan ddydd Iau.*
Os ydy'r tywydd yn caniatáu, byddwn yn cynnal Mabolgampau'r Cyfnod Sylfaen dydd Mawrth.
Bydd y Mabolgampau yn digwydd o flaen yr ysgol rhwng 09:30 a 2:30.
Croeso i rieni / aelodau o deuluoedd i ymuno gyda ni ar y diwrnod.
Bydd plant y meithrin bore yn unig yn cystadlu yn y bore.
Bydd plant y meithrin prynhawn yn unig yn cystadlu yn y prynhawn.
Bydd rhaglenni yn cael eu gwerthu ar y diwrnod am 50c.
Bydd y PTA yn gwerthu lluniaeth ysgafn ar y dydd.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff / lliwiau llysoedd.
Bydd angen digon o ddŵr, eli haul a hetiau haul arnynt os gwelwch yn dda.
Byddwn yn danfon SCHOOP ddydd Llun er mwyn rhoi gwybod I rieni os ydy'r Mabolgampau ymlaen neu beidio. Os nad yw'r Mabolgampau heddiw, byddwn yn eu cynnal ddydd Iau.

Clwb coginio i ddosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)

Ymarfer ar gyfer yr actorion ar gyfer 'Lion King' tan 4:30.
(Mae'r plant sy'n gorfod aros wedi derbyn llythyr - yr un plant a wythnos diwethaf.)

Dim ymarfer côr.

Bydd plant y côr yn mynd i wneud cyngerdd yn Age Connect, Griffithstown prynhawn 'ma.
(Llythyr i ddilyn - bydd y disgyblion yn ôl erbyn diwedd y dydd a byddant yn bwyta cyn gadael.)

Dydd Mercher:

Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2. **Wedi eu gohirio tan ddydd Gwener. **
Os ydy'r tywydd yn caniatáu, byddwn yn cynnal Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2 dydd Mercher.
Bydd y Mabolgampau yn digwydd o flaen yr ysgol rhwng 09:30 a 2:30.
Croeso i rieni / aelodau o deuluoedd i ymuno gyda ni ar y diwrnod.
Bydd rhaglenni yn cael eu gwerthu ar y diwrnod am 50c.
Bydd y PTA yn gwerthu lluniaeth ysgafn ar y dydd.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff / lliwiau llysoedd.
Bydd angen digon o ddŵr, eli haul a hetiau haul arnynt os gwelwch yn dda.
Byddwn yn danfon SCHOOP ddydd Mawrth er mwyn rhoi gwybod i rieni os ydy'r Mabolgampau ymlaen neu beidio. Os nad yw'r Mabolgampau heddiw, byddwn yn eu cynnal ddydd Gwener.

Gwersi Cymraeg i rieni. (9-11)

Clwb rhedeg amser cinio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn os gwelwch yn dda.)

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Cyfarfod ar gyfer rhieni newydd y feithrin.
Neuadd yr ysgol am 6 o'r gloch.

Dydd Iau:

** Mabogampau y Cyfnod Sylfaen os nad ydynt ymlaen ddydd Mawrth.**

Gwers nofio heddiw ar gyfer dosbarth Miss Griffiths.

Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Bydd clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 yn dechrau heddiw.
3:30 - 4:30.

Dydd Gwener:

** Mabogampau Cyfnod Allweddol 2 os nad ydynt ymlaen ddydd Mawrth.**

Clwb darllen amser cinio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish bore 'ma.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Cystadleuaeth Criced:
Bydd rhai disgyblion o flynyddoedd 4, 5 a 6 yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth criced yng nghlwb criced Panteg heddiw. (Mae'r rhai sy'n cystadlu mewn derbyn llythyr.)

Sesiwn Hyfforddi Rygbi i ferched blynyddoedd 5 a 6.
Bydd yr WRU yn dod i wneud sesiwn hyfforddi ar gyfer marched blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Bydd angen cit ymarfer corf ar bob un os gwelwch yn dda.

Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr