Mabolgampau:

Mabolgampau:

17th June 2016

Rydym yn gobeithio cynnal ein diwrnodau Mabolgampau yr wythnos nesaf:

Dydd Mawrth:

Mabolgampau y Cyfnod Sylfaen: *Wedi eu gohirio tan ddydd Iau.**

Os ydy'r tywydd yn caniatáu, byddwn yn cynnal Mabolgampau'r Cyfnod Sylfaen ddydd Mawrth.

Bydd y Mabolgampau yn digwydd o flaen yr ysgol rhwng 09:30 a 2:30.

Croeso i rieni / aelodau o deuluoedd i ymuno gyda ni ar y diwrnod.

Bydd plant y meithrin bore yn unig yn cystadlu yn y bore.
Bydd plant y meithrin prynhawn yn unig yn cystadlu yn y prynhawn.

Bydd rhaglenni yn cael eu gwerthu ar y diwrnod am 50c.
Bydd y PTA yn gwerthu lluniaeth ysgafn ar y dydd.

Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff / lliwiau llysoedd.
Bydd angen digon o ddŵr, eli haul a hetiau haul arnynt os gwelwch yn dda.

Byddwn yn danfon SCHOOP ddydd Llun er mwyn rhoi gwybod I rieni os ydy'r Mabolgampau ymlaen neu beidio. Os nad yw'r Mabolgampau heddiw, byddwn yn eu cynnal ddydd Iau.

Dydd Mercher: **Wedi eu gohirio tan ddydd Gwener.**

Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2.

Os ydy'r tywydd yn caniatáu, byddwn yn cynnal Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2 ddydd Mercher.

Bydd y Mabolgampau yn digwydd o flaen yr ysgol rhwng 09:30 a 2:30.

Croeso i rieni / aelodau o deuluoedd i ymuno gyda ni ar y diwrnod.

Bydd rhaglenni yn cael eu gwerthu ar y diwrnod am 50c.
Bydd y PTA yn gwerthu lluniaeth ysgafn ar y dydd.

Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff / lliwiau llysoedd.
Bydd angen digon o ddŵr, eli haul a hetiau haul arnynt os gwelwch yn dda.

Byddwn yn danfon SCHOOP ddydd Mawrth er mwyn rhoi gwybod i rieni os ydy'r Mabolgampau ymlaen neu beidio. Os nad yw'r Mabolgampau heddiw, byddwn yn eu cynnal ddydd Gwener.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr