Wythnos Rhifedd:

Wythnos Rhifedd:

13th June 2016

Mae ein hwythnos rhifedd ar draws y cwricwlwm wedi dechrau.

Ein thema ar gyfer yr wythnos hon yw 'Y daith i'r Euros' lle byddwn yn gwneud nifer o weithgareddau yn ymwneud gyda thaith Cymru i'r Bencampwriaeth yn Ffrainc.

Mae'r disgyblion i gyd yn gwisgo eu dillad ymarfer corf i'r ysgol heddiw ac maent i gyd wedi derbyn gwlad i'r hastudio yn ystod yr wythnos. Byddwn yn cymharu gwybodaeth ar y gwledydd hyn yn ein gwasanaeth ddydd Gwener.

Cyflwynwyd y thema i'r disgyblion yn y gwasanaeth y bore 'ma gan ein tîm rhifedd sef Mrs Sennitt, Mr Bridson a Miss Osborne.

Diolch yn fawr i bob un am eu holl waith gyda'r paratoi.

Edrychwn ymlaen yn fawr at yr wythnos.


^yn ôl i'r brif restr