Diwrnod Gwisg Anffurfiol:

Diwrnod Gwisg Anffurfiol:

10th June 2016

Bydd diwrnod gwisg anffurfiol yn yr ysgol ddydd Gwener nesaf.

Bydd diwrnod gwisg anffurfiol dydd Gwener nesaf sef y 17eg o Fehefin.

Yn hytrach na gofyn am gyfraniad ariannol, gofynnwn yn garedig eich bod yn cefnogi'r C.Rh.A. wrth iddynt baratoi ar gyfer y Ffair Haf. Rhestrir isod yr eitemau yr hoffent pob blwyddyn i gyfrannu. Ni ddisgwylir i chi wario llawer ar yr eitemau yma.

Meithrin a Derbyn – Llyfrau a phensiliau lliwio
Blwyddyn 1 a 2 - Losin/siocled
Blwyddyn 3 a 4 - Teganau arian poced
Blwyddyn 5 a 6 – Eitemau garddio (planhigion neu hadau) neu deunyddiau ymolchi

Rydym yn hynod ddiolchgar i'r C.Rh.A. am eu holl gwaith caled a chefnogaeth barhaus ac mae amser prysur o'u blaenau. Os ydych yn meddwl y gallwch chi eu helpu mewn unrhyw ffordd, a wnewch chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr

C Evans
Pennaeth


^yn ôl i'r brif restr