Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

19th May 2016

Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Wythnos Gwerthoedd:
Yn ystod yr wythnos, rydym yn gwahodd rhieni / aelodau o deuluoedd mewn i'r ysgol er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol gyda'r disgyblion. Isod, ceir rhestr o'r amseroedd ar gyfer bob dosbsarth.

Dydd Llun:

Miss Thomas a Miss Owen (Derbyn)
9:30-10:20

Clwb drama ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 heno tan 4:30.
* Dyma glwb drama olaf y flwyddyn. *

Dydd Mawrth:

Miss Bines a Miss Osborne (Blwyddyn 1)
9:30-10:20

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn hyfforddiant ar ddiogelwch ffordd gan Swyddog Diogelwch Ffyrdd Torfaen prynhawn 'ma. (1:20-2:20)

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)
*Dyma glwb coginio olaf dosbarth Mrs Dalgleish. Nesaf bydd dosbarth Miss Hughes yn cael cyfle - llythyr i ddiyn. *

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Mr Dobson a Miss Faulknall
9:30-10:20

Bydd cynrychiolydd o dîm pêl-droed Casnewydd yn dod i roi hyfforddiant pêl-droed i ddosbarth Miss Passmore.

Miss Wena Williams a Miss Griffiths
2:00-2:50

Clwb rhedeg ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn, yn ogystal â llythyr caniatâd.)

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Miss Heledd Williams a Miss Broad (Blwyddyn 3)
9:30-10:20

Miss Hughes a Mrs Dalgleish (Blwyddyn 2)
2:00-2:50

Gwers nofio Blwyddyn 4 Miss Griffiths bore 'ma.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud athletau, criced, rhedeg, tennis, rownderi ayyb.

Dydd Gwener:

Mr Bridson a Miss Passmore (Blwyddyn 6)
9:30-10:20

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

PTA: Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr