Cwrs Hyfforddiant Beicio 2016.

Cwrs Hyfforddiant Beicio 2016.

18th May 2016

Rydym wedi penderfynu cynnig cwrs beicio i ddisgyblion blwyddyn 6 sydd â diddordeb mewn cymryd rhan.

Bydd y gwersi beicio yn digwydd ar ôl ysgol ar ddydd Iau o 3:30 tan 4:30. Ar ddiwedd y cwrs, bydd aelod o CAPITA SYMONDS yn dod i’r ysgol i brofi’r plant er mwyn iddynt gael pasio’r cwrs.

Ar ddydd Iau, gofynnwn yn garedig i chi ddod â’r beiciau i’r ysgol yn y bore a’u clymu yn y man beicio. Yn anffodus, ni allwn gymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod sy’n digwydd i’r beiciau ar dir yr ysgol. Rhaid i bob beic gael brêc sy’n gweithio.

Rhaid i’r disyglbion ddod ag helmed addas ar gyfer gwneud y cwrs. Os hoffech i’ch plentyn gymryd rhan yn yr hyfforddiant, gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y rheolau ar y llythyr (Gweler 'Llythyron Adref') a bydd rhaid i ni dderbyn rhain yn ôl erbyn dydd Gwener, Mai 27ain. Bydd y sesiwn cyntaf ar nos Iau, Mehefin 16eg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Miss Passmore. Diolch.


^yn ôl i'r brif restr