Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

15th May 2016

Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Dydd Llun:

Clwb drama ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 heno tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Clwb rhedeg ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn, yn ogystal â llythyr caniatâd.)

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Gwers nofio Blwyddyn 4 Miss Griffiths bore 'ma.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud athletau, criced, rhedeg, tennis, rownderi ayyb.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

PTA: Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)

Nos Sadwrn:
Noson ferched y PTA.
Rhwng 7pm a 9pm yn y White Hut. £2 y pen.
Dewch i gefnogi!

Dydd Sul: (Mae hwn wedi'i ohirio.)
Park Run Pontypwl i blant (1km): Gan fod disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi bod yn gweithio mor galed gyda'u ffitrwydd ers dechrau'r tymor, credwn ei fod yn syniad da i ddathlu eu ffitrwydd drwy gefnogi y Park Run lleol am 9 o'r gloch fore dydd Sul.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr