Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

5th May 2016

Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Dydd Llun:

Bydd disgyblion o flynyddoedd 2 i 6 yn gwneud y prawf Rhesymu Mathemateg heddiw.
(Dyma eu prawf olaf.)

Clwb drama ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 heno tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Bydd rhai o ddisgyblion blwyddyn 4 yn mynd ar daith dros nos i Wersyll yr Urdd yng Nghaerdydd heddiw.
(Ceir mwy o wybodaeth yn y rhan 'Llythyron Adref'.)

Clwb rhedeg ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn, yn ogystal â llythyr caniatâd.)

Sesiwn hyfforddi pêl-droed Miss Passmore gyda Chasnewydd.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Fydd dim gwers nofio bore 'ma gan fod rhai o ddisgyblion blwyddyn 4 yng Nghaerdydd.

Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn ôl o'r daith erbyn diwedd y dydd.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud athletau, criced, rhedeg, tennis, rownderi ayyb.

Dydd Gwener:

Cystadleuaeth pêl-droed, pêl-rwyd a rygbi. (Llythyron i

Gall dosbarth Mrs Dalgleish wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill preseondeb y mis ar gyfer mis Ebrill. Da iawn chi.

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

PTA: Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr