Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

28th April 2016

Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:

Gwyl y Banc - bydd yr ysgol ar gau heddiw.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

** Bydd y profion statudol cenedlaethol yn dechrau heddiw ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6. **

Bydd PC Thomas yn ymweld â disgyblion blwyddyn 4 prynhawn 'ma.

Clwb rhedeg ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn, yn ogystal â llythyr caniatâd.)

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Dim gwers nofio bore 'ma.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud athletau, criced, rhedeg, tennis, rownderi ayyb.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

PTA: Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr