Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

21st April 2016

Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

** Gofynnwn am unrhyw arian ar gyfer y lluniau dosbarth yn ôl erbyn heddiw os gwelwch yn dda. **

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Clwb rhedeg ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn, yn ogystal â llythyr caniatâd.)

Sesiwn Hyfforddi Blwyddyn 6: Bydd disgyblion dosbarth Miss Passmore yn derbyn sesiwn hyfforddi pêl-droed gan Glwb Casnewydd heddiw.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

'Adenydd i Hedfan' - disgyblion blwyddyn 6.
Mae Heddlu Gwent wedi trefnu bod disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Theatr y Congress heddiw i weld y ddrama 'Adenydd i Hedfan'. Bydd y disgyblion yn ôl erbyn amser cinio.
(Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.)

Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Bydd CYW yn dod i weld disgyblion blwyddyn 3 prynhawn 'ma.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud athletau, criced, rhedeg, tennis, rownderi ayyb.

Dydd Gwener:

Diwrnod Agored:
Dyma amseroedd y diwrnod agored heddiw:
9:20-10:20 / 10:50-11:30 / 1:30-2:30.

Bydd ffair lyfrau Scholastic ymlaen yn y neuadd drwy'r dydd yn ogystal.

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

PTA: Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)

Dydd Llun: Cofiwch ei bod hi'n wyl y banc ddydd Llun felly bydd yr ysgol ar gau.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr