Cystadleuaeth Corneli Darllen:

Cystadleuaeth Corneli Darllen:

15th March 2016

Dros yr wythnosau diwethaf, mae pob dosbarth wedi bod yn brysur iawn yn cynllunio a datblygu cornel ddarllen yn y dosbarth.

Daeth Jonathan Rees o'r EAS i'r ysgol ar ddydd Gwener, Mawrth 11eg i feirniadu'r gystadleuaeth corneli darllen. Un o flaenoriaethau'r ysgol eleni yw i feithrin brwdfrydedd y disgyblion i ddarllen ystod eang o lyfrau. Roedd nifer fawr o gorneli amrywiol, o draeth i jyngl ac o ogof Harry Potter i ogof Roald Dahl. Nododd Jonathan ei bod yn gystadleuaeth anodd iawn i'w beirniadu.

Dyma'r canlyniadau:

Cyfnod Sylfaen:

Cyntaf: Dosbarthiadau'r derbyn
Ail: Dosbarth Miss Hughes.

Cyfnod Allweddol 2:

Cyntaf: Cyntedd dosbarth Miss Faulknall a Miss Williams.
Ail: Dosbarth Miss Passmore.

Da iawn i bob un. Bydd yr enillwyr yn derbyn arian i'w wario ar lyfrau i'r dosbarth.


^yn ôl i'r brif restr