Helfa Drysor / Diwrnod yng Ngwynllyw:

Helfa Drysor / Diwrnod yng Ngwynllyw:

15th March 2016

Bydd taith nesaf blwyddyn 6 i Wynllyw yn digwydd ar ddydd Mawrth, Mawrth 22ain o 10 y bore tan 2:00.

Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn helfa drysor er mwyn dechrau ymgyfarwyddo gyda'r adeilad. Byddant hefyd yn gwneud gweithgareddau amrywiol yn ystod y dydd. Bydd cinio ar gael iddynt yng Ngwynllyw felly bydd dim angen pecyn cinio arnynt ar y diwrnod hwn.

Bydd angen i'r disgyblion wisgo eu gwisg ysgol os gwelwch yn dda. Nid oes angen i chi roi eich caniatâd am y daith, gan eich bod wedi gwneud hwn ar ddechrau'r flwyddyn. Rhaid i ddisgyblion sy'n dioddef ag asthma ddod â phwmp gyda nhw.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr