Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

10th March 2016

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Bydd criw ffilmio 'CYW' yn dod i ffilmio gyda disgyblion blwyddyn 3 heddiw.
(Mae disgyblion blwyddyn 3 i gyd wedi derbyn llythyr am y ffilmio. Gofynnwn yn garedig am y ffurflenni caniatâd yn ol erbyn dydd Llun os gwelwch yn dda.)

Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Ymarfer côr tan 4:30.

Bydd Mrs Lowri Davies yn cynnal dosbarth 'Kettlebells' i rieni / gwarchodwyr yn neuadd yr ysgol am 5 o'r gloch. (£3.50)

Dydd Mercher:

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Bydd Bardd Plant Cymru, Anni Llyn, yn cynnal gweithdy gyda disgyblion dosbarth Miss Faulknall heddiw.

Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Clwb pel-droed ar ôl ysgol tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud dawns / dawns stryd.

Dydd Gwener:

Diwrnod Sports Relief: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad chwaraeon heddiw. Bydd pob dosbarth yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon a bydd unrhyw arian a gasglwyd yn mynd tuag at Sports Relief.

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr