Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

3rd March 2016

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Pythefnos Masnach Deg: Byddwn yn edrych ar nwyddau masnach deg dros yr wythnos fel rhan o bythefnos Masnach Deg.
Am fwy o wybodaeth am fansach deg, gweler y wefan isod.

Dydd Llun:

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i'r Ganolfan TA yng Ngwmbrân prynhawn 'ma ar gyfer Crucial Crew sydd wedi'i drefnu gan Heddlu Gwent. Bydd y disgyblion yn bwyta cinio yn yr ysgol fel arfer, cyn cerdded i'r ganolfan.

Dydd Mawrth:

Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Ymarfer côr tan 4:30.

Bydd Miss Lowri Davies yn cynnal dosbarth 'Kettlebells' i rieni / gwarchodwyr yn neuadd yr ysgol am 5 o'r gloch. (£3.50)

Dydd Mercher:

Sgrinio golwg i blant y derbyn.

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Sgrinio golwg i blant y derbyn.

Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Clwb pel-droed ar ôl ysgol tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud dawns / dawns stryd.

Dydd Gwener:

Bore Goffi Masnach Deg y derbyn. 9:30-10:30 yn neuadd yr ysgol.
(Llythyr i ddilyn.)

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr