Crynodeb o gyfarfod Gwynllyw:

Crynodeb o gyfarfod Gwynllyw:

24th February 2016

Neithiwr, cynhaliwyd cyfarfod am Ysgol Gyfun Gwynllyw yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Rhoddwyd llawer o wybodaeth am y broses o bontio rhwng yr ysgol gynradd a blwyddyn 7 ac isod, ceir crynodeb o'r prif bethau y trafodwyd. Rwyf wedi cynnwys copi o lythyr Glan-llyn a chopïau o'r ffurflenni archebu gwisg yn ogystal.

Os oes unrhyw gwestiynau ychwanegol gyda chi, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.

Gwybodaeth bwysig a dyddiadau i'w nodi:

Glan-llyn:
Rhoddir cyfle i’r disgyblion fynd ar daith i Lan-llyn rhwng y pumed a'r nawfed o Fedi. Pris y daith yw £185 a rhaid i'r swm hwn gael ei dalu ar y 28ain o Fehefin yng Ngwynllyw. (Gwler copi o'r llythyr.)

Gwersi Offerynnol:
Os hoffai eich plentyn dderbyn gwersi offerynnol yng Ngwynllyw flwyddyn nesaf, dylid cysylltu gyda ‘Gwent Music’ yn uniongyrchol.

Trafnidiaeth:
Dylech chi dderbyn pecyn ynglŷn â thrafnidiaeth ym mis Ebrill / Mai.

Archebu Gwisg Ysgol:
Gallwch chi archebu'r wisg ysgol a'r wisg ymarfer corff drwy Ysgol Gyfun Gwynllyw yn uniongyrchol neu drwy ymweld â siop ‘Rugger Bug’ yn Ystrad Mynach.
39 Dyffryn Industrial Estate, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7RJ. www.ruggerbug.co.uk
Dylech feddwl am archebu gwisg ysgol ym mis Ebrill / Mai.

Dyddiad y cyfarfod nesaf:
Bydd y cyfarfod nesaf yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ar nos Fawrth, Mehefin 28ain. Bydd angen talu am y daith i Lan-llyn yn ystod y cyfarfod hwn.

Diolch, Miss Passmore.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr