Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

21st February 2016

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Bydd clybiau'n ail ddechrau yr wythnos hon.

Bydd y disgyblion yn dechrau'n ol yn yr ysgol ddydd Llun.

Dydd Llun:

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

** Ymarfer cor ychwanegol tan 5.**

Dydd Mawrth:

Bydd disgyblion blwyddyn 5 yn teithio i Gaerdydd i wylio 'The Mozart Effect'.

Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Ymarfer côr tan 4:30.

Cystadleuaeth Hoci i'r tim.
3-5 yn y Ffatri Bel-droed.

Cyfarfod i rieni/gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6 sy'n mynd i Wynllyw flwyddyn nesaf.

6 o'r gloch yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Dydd Mercher:

Bydd rhywun o Glwb Pel-droed Casnewydd yn dod i roi sesiwn hyfforddi i ddosbarth Mr Bridson heddiw.

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Cystadleuaeth Pel-droed cymysg a rygbi tag yr Urdd.
Ystrad Mynach o 10-3.
Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
(Bydd y disgyblion yn ol cyn diwedd y dydd.)

Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Clwb pel-droed ar ôl ysgol tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud dawns / dawns stryd.


Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Miss Hughes.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr