Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

28th January 2016

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Dydd Llun:

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos yn y neuadd am 09:10.

Bydd Miss Bethan Frost o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn dod i'r ysgol i roi gwers Dylunio a Thechnleg i ddisgyblion blwyddyn 6.

Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Bydd rhywun o Glwb Pel-droed Casnewydd yn dod i roi sesiwn hyfforddi i ddosbarth Mr Bridson heddiw.

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Bydd dosbarth blwyddyn 4 Miss Wena Williams yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Clwb pel-droed ar ôl ysgol tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:

Bydd Miss Rhian James a Miss Helen Rogers o Wynllyw yn dod i'r ysgol i drafod y wisg ysgol gyda disgyblion blwyddyn 6 bore 'ma. (9 o'r gloch.)

Bydd y Frigad Dân yn ymweld â disgyblion blwyddyn 5 heddiw.

Gall dosbarth Mr Bridson ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Ionawr.

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Miss Hughes.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr