Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

14th January 2016

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Dydd Llun:

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Bydd PC Thomas yn ymweld gyda disgyblion blwyddyn 5 am 1:30.

Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Bydd rhywun o Academi Bêl-droed Casnewydd yn dod i gynnal sesiwn bêl-droed gyda blwyddyn 6 Mr Bridson prynhawn 'ma.

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Twrnament Pel-droed yng Nghaerdydd.
Bydd angen pecyn cinio a digon o ddwr ar eich plentyn os gwelwch yn dda.
Os ydy eich plentyn yn dioddef o asthma, bydd angen pwmp arno.
Bydd y disgyblion yn ol erbyn diwedd y dydd.

Bydd dosbarth blwyddyn 4 Miss Wena Williams yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Clwb pel-droed ar ôl ysgol tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Miss Hughes.

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Dydd Sadwrn:
Rownd derfynol Gala Nofio'r Urdd.
9 o'r gloch ymlaen yng Nghanolfan Nofio Rhyngwladol, Caerdydd.
Pob lwc i Carys ac Amelia.

Dydd Sul:
Ras Hwyl PTA Coed Eva.
Am fwy o wybodaeth am y ras, ewch i'r wefan isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr