Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

3rd January 2016

Dyma drefniadau'r wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Blwyddyn Newydd Dda gan yr holl staff.

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon,
ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Dydd Llun:
Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd.
Does dim ysgol i'r disgyblion heddiw.

Dydd Mawrth:

Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol heddiw.

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddosbarth Miss Williams.

Dydd Gwener:

Gall disgyblion dosbarth Miss Griffiths wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Rhagfyr.

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.

Ysgol Gynradd Coed Eva:

Rydym yn meddwl am bawb yn Ysgol Gynradd Coed Efa ar ol y tân yno nos Galan. Byddwn yn trafod ffyrdd gwahanol y gallwn gynnig cefnogaeth i'r disgyblion a'r staff yno dros yr wythnosau nesaf a byddwn yn rhoi gwybod i rieni / gwarchodwyr pan fyddwn wedi penderfynu beth i'w wneud.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.


^yn ôl i'r brif restr