Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

11th December 2015

Dyma drefniadau'r wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ar gyfer wythnos nesaf:

Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.

Dydd Llun:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw i gymryd rhan yn eu cyngerdd Nadolig rhwng 10 a 12.
Bydd angen iddynt ddod i'r ysgol yn eu gwisg ysgol a bydd angen pecyn cinio arnynt os gwelwch yn dda.

Dydd Mawrth:

Cyngerdd Nadolig y Cyfnod Sylfaen.
10 y bore yn neuadd yr ysgol.
Tocynnau ar werth yn y brif fynedfa.

Cyngerdd Nadolig y Cyfnod Sylfaen.
2 y prynhawn yn neuadd yr ysgol.
Tocynnau ar werth yn y brif fynedfa.

Dydd Mercher:

Cyngerdd Nadolig y Cyfnod Sylfaen.
10 y bore yn neuadd yr ysgol.
Tocynnau ar werth yn y brif fynedfa.

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Dydd Iau:

Cyngerdd Nadolig Meithrin y bore.
10:30 y bore yn neuadd yr ysgol.
Tocynnau ar werth yn y brif fynedfa.

Cyngerdd Nadolig Meithrin y prynhawn.
2 y prynhawn yn neuadd yr ysgol.
Tocynnau ar werth yn y brif fynedfa.

Gwers nofio i ddosbarth Miss Williams heddiw.

Dydd Gwener:

Diwrnod olaf y tymor. Bydd yr ysgol yn cau am 2 o'r gloch heddiw.
(Fydd dim Clwb Plant y Tri Arth heddiw.)

Parti Nadolig.
Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 tuag at y bwyd parti.

Diwrnod Siwmper Nadoligaidd / Gwisg ysgol. Byddwn yn casglu arian tuag at 'Text Santa' heddiw. Bydd yr arian yn mynd tuag at yr elusennau canlynol: Make a Wish, MacMillan ac Achub y Plant.

Bydd y disgyblion yn ail ddechrau yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Ionawr 5ed.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr