Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

22nd November 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Lliw yr wythnos ar gyfer y feithrin yw du.

Dydd Llun:
Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb gwnio ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30.
Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Jambori yr Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 4. (£2))
10-12. Bydd y disgyblion yn ol yn yr ysgol erbyn amser cinio.

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Cystadleuaeth Pel-rwyd a Rygbi'r Urdd yng Nghwm Rhymni. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion a bydd angen pwmp asthma os ydynt yn dioddef o asthma.
Bydd angen digon o ddillad twym arnynt hefyd.
Bydd y disgyblion yn ol erbyn diwedd y dydd.

Bydd dosbarth blwyddyn 4 Miss Wena Williams yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Clwb rygbi ar ol ysgol tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ol ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:

Cystadleuaeth Pel-rwyd a Rygbi'r Pontypool ym Mlaenafon. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion a bydd angen pwmp asthma os ydynt yn dioddef o asthma.
Bydd angen digon o ddillad twym arnynt hefyd.
**Bydd y disgyblion yn ol yn yr ysgol am 4:15. **

Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:10-10:30)

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr