Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

12th November 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Lliw yr wythnos ar gyfer y feithrin yw brown.
** Wythnos Gwrth Fwlio: Bydd y disgyblion yn gwneud gweithgareddau amrywiol yn eu dosbarthiadau. **

Dydd Llun:
Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

Dydd Mawrth:

Bydd plant blynyddoedd 1 a 2 yn mynd i Theatr y Gongress, Cwmbran i wylio panto 'Dacw Mam yn Dwad'.
10-12. (Bydd y plant yn ol yn yr ysgol erbyn amser cinio.)
£8

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb gwnio ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30.
Ymarfer côr tan 4:30.

Cystadleuaeth Hoci i'r tim.
Ffatri Bel-droed, Cwmbran rhwng 3 a 5.
(Gofynnwn yn garedig i rieni / gwarchodwyr godi eu plant o'r Ffatri Bel-droed am 5. Diolch.)

Dydd Mercher:

Gwasanaeth Gwrth-fwlio ar gyfer yr ysgol gyfan. (10 o'r gloch.)

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Bydd dosbarth blwyddyn 4 Miss Wena Williams yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Clwb rygbi ar ol ysgol tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ol ysgol tan 4:30.

Gofynnwn yn garedig i'r tim pel-rwyd aros ar ol ysgol tan 4:30 os gwelwch yn dda?

Dydd Gwener:

Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:10-10:30)

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdy ar seibr fwlio gyda disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 am 11 o'r gloch.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr