Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

5th November 2015

Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Lliw yr wythnos ar gyfer y feithrin yw pinc.

** Wythnos Gwerthoedd: Bydd y disgyblion yn gwneud gweithgareddau amrywiol yn eu dosbarthiadau yn ymwneud gyda'r gwerthoedd yn ystod yr wythnos. **

Dydd Llun:
Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.

** Cyfarfod i rieni blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwyllyw. **

3:30: Cyfarfod anffurfiol.
6:00: Cyfarfod ffurfiol gyda'r pennaeth, Mr Griffiths.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb gwnio ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30.
Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Mercher:

Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)

Dydd Iau:

Gala Nofio'r Urdd: Bydd rhai disgyblion CA2 yn cymryd rhan yng ngala nofio'r Urdd yng Nghanolfan Hamdden Pontypwl yn ystod y bore.

Bydd dosbarth blwyddyn 4 Miss Wena Williams yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

** Dim clwb rygbi na ffitrwydd ar ol ysgol gan fod cyfarfod staff ychwanegol. **

Dydd Gwener:

** Diwrnod Plant Mewn Angen. **
Mae Cyngor yr ysgol wedi penderfynu mai diwrnod pyjama ac 'onesie' bydd yn digwydd heddiw er mwyn codi arian at Blant Mewn Angen. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o 50c os gwelwch yn dda.

Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:10-10:30)

Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr