Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

11th September 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Does dim clybiau ar ol ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.

** Os ydych chi'n poeni eich bod wedi colli unrhyw lythyron, cofiwch eu bod ar gael yn 'Llythyron Adref' ar y wefan hon. **

Dydd Llun:

Mae Adran yr Urdd, Pontypwl yn ail ddechrau heno.
Os oes diddordeb gyda chi ewch i NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL AR NOS LUN RHWNG 4.30PM – 6PM. Byddai’n braf eich gweld yno.
CROESO I BAWB YM MLWYDDYN 3-6
Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Helen Greenwood ar 01495 350155.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
9:10 yn neuadd yr ysgol.

Dydd Mercher:

Bydd disgyblion CA2 yn gwylio drama 'Mewn Cymeriad' ar Harri Tudur heddiw.
(Yn yr ysgol)

Bydd Clwb Coginio yr Urdd yn dechrau heno ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
Pob yn ail nos Fercher
Clwb i flwyddyn 6 a 7
4.30 – 6.00pm
Canolfan Iago Sant, Pont-y-pŵl.
I archebu lle cysylltwch â:
01495 755861 neu Siangriffiths@menterbgtm.org

Dydd Iau:

Bydd dosbarth blwyddyn 4 Miss Wena Williams yn derbyn gwers nofio bore 'ma.

Dydd Gwener:

Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:10-10:30)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr