Tîm pêl droed Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Tîm pêl droed Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

15th November 2007

Mae tîm pêl droed yr ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar; dyma ychydig o hanes y tîm

Mae tîm pêl-droed hynod o wych gydag Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Rydyn ni’n ymarfer bob nos Fawrth yn ein Clwb Chwaraeon. Yr athrawon ydy ein hyfforddwyr gyda Mr Rock yn gyfrifol am y tîm cymysg a Miss Davies/ Mrs Sennitt yn gyfrifol am dîm y merched. Rydyn ni gyd yn ymwybodol taw’r cymryd rhan sy’n bwysig ac nid y canlyniad.

Yn ein gêm gyntaf enillon ni 6-2 oddi cartref yn erbyn Ysgol Henllys. Chwaraeodd y canlynol: Luke (capten), Joseph (is-gapten), Lloyd L, Lloyd M a Harry (golgeidwad) o Flwyddyn Chwech; Lewis, Dewi a Joseph o Flwyddyn Pump. Sgoriodd Joseph C dair gôl, Lloyd L ddwy a sgoriodd ein capten, Luke un. Ein hyfforddwr gwych oedd MR ROCK (athro Blwyddyn 5). Seren y gêm yn ôl Mr Rock oedd Joseph C. Roedd hi’n gêm gyffrous sy’n argoeli’n dda am weddill y tymor.

Yn ein hail gêm collon ni 5-2 yn erbyn tîm cryf Ysgol Coed-Eva. Chwaraeodd pob chwaraewr o Flwyddyn Chwech eto. Yn ogystal â hyn, daeth Josh. O Flwyddyn Pump chwaraeodd Daniel, Dewi , Joseph ac Eleri. Sgoriodd Joseph C a Lloyd L un gôl yr un ac roedden ni’n anffodus i golli. Seren y gêm yn ôl Mr Rock oedd Lloyd L sy wedi gwella cryn dipyn dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ein trydedd gêm enillon ni 4-2 yn erbyn Ysgol New Inn. Chwaraeodd yr un chwaraewyr o Flwyddyn Chwech heblaw am Lloyd M. O Flwyddyn Pump chwaraeodd Lewis W, Lewis R, Eleri a Dewi. Sgoriodd Eleri ddwy gôl fendigedig – un gyda’i phen. Sgoriodd Joseph C gôl ardderchog yn debyg i Beckham gan godi’r bêl dros ben y golgeidwad o bellter. Hefyd, sgoriodd Lloyd L unwaith eto. Roedd Mr Rock wrth ei fodd gyda’r canlyniad ac agwedd gyffredinol y tîm. Seren y gêm yn ôl Mr Rock oedd Eleri – roedd ei gôl gyntaf hi o’r safon uchaf.

POB LWC I’R TÎM YN Y DYFODOL!


^yn ôl i'r brif restr