Llythyr olaf Tymor yr Haf 2008

16th July 2008

Bydd gwyliau'r haf yn dechrau ar yr 18fed o Orffennaf. Bydd y tymor newydd yn dechrau ar yr 2ail o Fedi. Joiwch y gwyliau!

Mae bywyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wedi bod yn brysur iawn y tymor yma. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff am eu hymroddiad a’u gwaith caled i’r ysgol. Rwy’n gwerthfawrogi fy staff ardderchog gan eu bod yn barod iawn i drefnu ac i gefnogi’r gweithgareddau allgyrsiol di-ri. Mae nifer o’r gweithgareddau gan gynnwys yr ymarferion chwaraeon, y canu a Chlwb yr Urdd yn digwydd ar ôl oriau gwaith.

Diolch yn fawr i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Mae disgos wedi cael eu cynnal yn rheolaidd ac roedd parti gadael Blwyddyn 5 yn llwyddiannus iawn. Diolch hefyd i’r rhieni sydd wedi helpu’r athrawon gyda’r tripiau ysgol.

Y flwyddyn hon yr ydym wedi bod yn casglu arian i’r elusen Diabetes Cymru sydd yn cefnogi plant sydd yn dioddef o diabetes. Cyfanswm y casgliad yw £801. Da iawn yn wir! Ym mis Medi byddwn yn cefnogi’r achos da CLAPA sydd yn cefnogi plant sydd â thaflod hollt.

Diolch yn fawr iawn i Mr a Mrs Howells am eu rhodd i’r ysgol (cit pêl-droed newydd).

Llongyfarchiadau mawr i Miss Elin Davies ar enedigaeth ei mab Harri Caradog ac hefyd i Miss Emma Harris ar enedigaeth ei mab bach yr wythnos hon!

Byddwn yn ffarwelio â Miss Catrin Devonald ar ddiwedd y tymor. Hoffwn ddiolch yn fawr i Miss Catrin Devonald am ei hymroddiad i Ysgol Gymraeg Cwmbrân . Dymunwn y gorau iddi wrth iddi ddechrau ei swydd newydd yng Nghaerdydd ym mis Medi.

Croesawn Mrs Julie Powell, Miss Lowri Stockman a Miss Amy Harper. Bydd y tair yn gweithio fel Cynorthwywyr yn y Cyfnod Sylfaen. Croesawn hefyd Miss Bethan Morris at ein teulu yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Bydd Miss Morris yn addysgu dosbarth Blwyddyn 2.


Diolch yn fawr i chi’r rhieni am eich cefnogaeth yn ystod y tymor a’r flwyddyn. Mae eich plant chi wedi bod yn ardderchog y flwyddyn hon a dylech fod yn falch iawn ohonynt i gyd. Mae nifer fawr o ymwelwyr i’r ysgol wedi sylwi ac wedi nodi pa mor dda yw ymddygiad a pha mor gwrtais yw plant Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn y dosbarth ac ar yr iard.


^yn ôl i'r brif restr