Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

13th June 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Wythnos Ryngwladol *

Dydd Llun:
* Taith diwedd blwyddyn blynyddoedd 5 a 6. *
(Bydd angen gwisg ysgol, trowsus addas a phecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Clwb Lles yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr meithrin newydd - 1:30 yn y feithrin.
Clwb 'Pound Fit' ar ôl ysgol tan 4:45.

Dydd Mawrth:
Bydd plant blwyddyn 1 yn cerdded i'r eglwys bore 'ma.
(Bydd angen cot law ar y plant os gwelwch yn dda.)
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb coginio i ddisgyblion blwyddyn 3 ar ôl ysgol. (3:30-4:30)
Ymarfer côr ar ôl ysgol. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:
Gwasanaeth y dosbarthiadau meithrin a'r derbyn - 09:30 a 2 o'r gloch.
Diwrnod o wersi yng Ngwynllyw ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
(Bydd angen gwisg ysgol, esgidiau ymarfer corff a phecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarthiadau Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Gweithdy 'Upbeat' ar gyfer rhai disgyblion CA2.
Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr y derbyn newydd - 1:30 yn y feithrin.
Clwb natur ar gyfer plant blwyddyn 2 yn ystod amser cinio.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ystod amser cinio.
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:
* Diwrnod Gwisg anffurfiol *
Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad ariannol neu gyfraniad o losin / siocled ar gyfer y Ffair Haf.
Bydd y Gymdeithas Rieni yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd heddiw. (50c yr un)
Sesiwn beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 sy'n cymryd rhan.
Gig 'Gwilym' yn yr ysgol.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr