Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

6th June 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:
Clwb Lles yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Bydd disgyblion o Ysgol Nant Celyn ac Ysgol Henllys yn dod yma yn y prynhawn ar gyfer gwers Gymraeg.
Clwb 'Pound Fit' ar ôl ysgol tan 4:45.

Dydd Mawrth:
Bydd y côr a'r parti dawnsio yn perfformio mewn Gala Fawreddog yn Theatr y Congress heddiw am 12:30.
(Bydd angen gwisg y côr a phecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb coginio i ddisgyblion blwyddyn 3 ar ôl ysgol. (3:30-4:30)
Ymarfer côr ar ôl ysgol. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:
Cystadleuaeth griced yr Urdd a gyfer disgyblion blwyddyn 4. (Mae’r rhai sy’n cystadlu wedi derbyn llythyr. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarthiadau Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn gweithdy diogelwch ar y ffordd gan Kate Kerr, Swyddog Diogelwch Ffordd Torfaen, heddiw.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ystod amser cinio.
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:
* Mabolgampau: Yn anffodus, mae'r mabolgampau wedi eu gohirio achos y rhagolygon gwael. *
Casgliad dillad 'Rags to Riches' heddiw.
Bydd y Gymdeithas Rieni yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd heddiw. (50c yr un)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr