Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

23rd May 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos gyntaf ar ôl hanner tymor yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Wythnos Rifedd - y thema yw Cwpan Criced y Byd. *

* Cost ffrwyth ar gyfer yr hanner tymor yw £8.75. *

Dydd Llun:
* Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol heddiw. *
Clwb Lles yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Clwb 'Pound Fit' ar ol ysgol tan 4:45.

Dydd Mawrth:
* Bydd disgyblion dosbarth Miss Broad yn mynd ar daith i'r sinema heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mai. *
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb coginio i ddisgyblion blwyddyn 3 ar ôl ysgol. (3:30-4:30)
Ymarfer côr ar ôl ysgol. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdy gyda disgyblion o flynyddoedd 3 a 4 heddiw.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarthiadau Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ystod amser cinio.
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:
* Mabolgampau: RYDYM WEDI PENDERFYNU GOHIRIO'R MABOLGAMPAU ACHOS Y RHAGOLYGON TYWYDD GWAEL - GOBEITHIWN GYNNAL Y MABOLGAMPAU AR DDYDD GWENER, MEHEFIN 7FED. DIOLCH. *
Os ydy'r tywydd yn caniatáu, bydd Mabolgampau'r ysgol yn digwydd heddiw. Croeso i deuluoedd ymuno gyda ni ar y glaswellt o flaen yr ysgol o 09:30 ymlaen. *

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr