Ras gyfnewid 'Relay For Life':

Ras gyfnewid 'Relay For Life':

17th May 2019

Mae'r disgyblion i gyd wedi cymryd rhan yn y ras gyfnewid 'Relay for Life' heddiw.

O blant y feithrin i ddisgyblion blwyddyn 6 a'r staff, mae pawb yn cymryd rhan mewn ras gyfnewid heddiw i gefnogi ymchwil cancr.

Mae plant yn y Cyfnod Sylfaen yn rhedeg milltir ac mae'r disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 yn rhedeg dwy filltir. Mae'r disgyblion wedi bod yn codi arian ar gyfer ymchwil cancr wrth gymryd rhan yn y digwyddiad.

Diolch i bawb am eich cefnogaeth gyda'r digwyddiad hwn a diolch i'r Cyngor Ysgol am drefnu'r diwrnod.

Da iawn i bawb.


^yn ôl i'r brif restr