Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

16th May 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Dyma'r wythnos olaf cyn gwyliau'r hanner tymor. *

Dydd Llun:
Trip blwyddyn 6 i Fourteen Locks - dosbarth Mr Bridson yn y bore a dosbarth Miss Passmore yn y prynhawn.
(Bydd y disgyblion yn bwyta cinio yn yr ysgol fel arfer. Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod ag esgidiau addas os gwelch yn dda.)
Bydd y grŵp dawnsio disgo yn perfformio yn Theatr y Congress heno. (Cwrdd yno am 6:30)
Clwb Lles yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwnïo i ddisgyblion blwyddyn 3 ar ôl ysgol. (3:30-4:30)
Ymarfer côr ar ôl ysgol. (3:30 - 4:30)
Bydd y grwp dawnsio disgo yn perfformio yn Theatr y Congress heno. (Cwrdd yno am 6:30)

Dydd Mercher:
Gweithdai Hylendid Bwyd i'r ysgol gyfan.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdy gyda blwyddyn 5 prynhawn 'ma.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:
*Diwrnod Dysgu yn yr Awyr Agored. *
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarthiadau Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ystod amser cinio.
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

* Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Mehefin 3ydd. *

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr