Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

9th May 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:
Clwb Lles yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.

Dydd Mawrth:
* Lluniau dosbarth, timoedd a.y.y.b. * Mae hwn yn wahanol i'r hyn sydd ar y calendr.
Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwnïo i ddisgyblion blwyddyn 3 ar ôl ysgol. (3:30-4:30)
Ymarfer côr ar ôl ysgol. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb dawnsio ar gyfer grŵp yr Urdd o 3:30 – 4:30.

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarthiadau Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ystod amser cinio.
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:
* Gall y disgyblion ddod i'r ysgol heddiw yn eu dillad chwaraeon, yn barod ar gyfer ras gyfnewid 'Relay for life'. (Gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref' y wefan.) *
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr