Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

2nd May 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm iaith yr wythnos: Oes ….. gyda ti? (Oes / Nac oes)
Band yr wythnos: Al Lewis - Lliwiau Llon / Heulwen o Hiraeth

* Bydd clybiau ar ôl ysgol yn ail ddechrau yr wythnos hon. Fydd dim clybiau ar ôl ysgol nos Fawrth gan fod cyfarfod i rieni / gwarchodwyr am 3:45. *

Dydd Llun:
Gŵyl y Banc.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
* Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr gyda thîm arolygu ESTYN yn neuadd yr ysgol am 3:45. *
Dim clwb gwnïo ar ôl ysgol.
Dim ymarfer côr ar ôl ysgol.

Dydd Mercher:
Prawf darllen Saesneg ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 4 i 6. (Bore)
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
* Prynhawn Lles: Edrych ar ôl y corff. *
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb dawnsio ar gyfer grŵp yr Urdd o 3:30 – 4:30.

Dydd Iau:
Prawf darllen Cymraeg ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 i 6. (Bore)
Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Dim gwers nofio.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ystod amser cinio.
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:
Prawf rhesymu Mathemateg ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 i 6. (Bore)
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)


^yn ôl i'r brif restr