Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

11th April 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos gyntaf ar ôl y Pasg yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

* Pris ffwyth am yr hanner tymor hwn yw £4.50. *

Patrwm iaith yr wythnos yw 'Oes .... gyda ti? Oes / Nac oes'

* Bydd y disgyblion yn ail ddechrau yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Ebrill 30ain. *

* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Dydd Llun:

Ysgol ar gau i'r disgyblion heddiw - Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff.

Dydd Mawrth:

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

Dydd Iau:

Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Miss Heledd Williams a Miss Broad.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr