Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

21st March 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Dydd Llun:

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Clwb chwaraeon yr Urdd i blant blwyddyn 2 ar ôl ysgol - 3:30 tan 4:30.

Bydd rhai disgyblion yn mynd i wylio gem Celtic Dragons heno.
(Gofynnwn yn garedig i chi ddod â’ch plentyn i’r ysgol erbyn 5:45yh ar gyfer mynd ar y bws i Gaerdydd. Gobeithiwn fod nôl yn yr ysgol erbyn 9:00yh. Gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref'.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (50c)

Ymarfer côr ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion CA2 rhwng 3:30 a 4:30.

Cyngerdd Côr:
Bydd y côr yn perfformio yn Theatr y Congress heno.
Bydd angen i aelodau'r côr gwrdd â ni yn y theatr am 6:45pm i baratoi ar gyfer y gyngerdd.
(Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.)

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

* Prynhawn lles: Y thema ar gyfer y pythefnos hwn yw 'diogelwch ar y dwr'.
Bydd cynrychiolwyr o'r RNLI yn dod mewn i weithio gyda rhai dosbarthiadau.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Sesiwn dawnsio disgo ar gyfer yr Eisteddfod. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Miss Heledd Williams a Miss Broad.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)

Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Eisteddfod Ddawns:
Bydd y dawnswyr disgo yn cystadlu yn yr Eisteddfod Ddawns yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni heddiw.
Byddwn yn cwrdd â'r disgyblion yno tua 3:30 - bydd angen eu casglu o'r ysgol am 3 o'r gloch os gwelwch yn dda.
(Gweler y llythy yn rhan 'Llythyron Adref' o'r wefan.)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr