Trefniadau'r Wythnos:

21st February 2019
Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ôl hanner tymor yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Dydd Llun:
** Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol heddiw. **
Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.
Clwb i blant blwyddyn 2 ar ôl ysgol - 3:30 tan 4:30.
Dydd Mawrth:
* Byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad traddodiadol / cit rygbi neu bêl-droed os ydynt yn dymuno.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (50c)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
* Cyfarfod ar gyfer rhieni / gwarchodwyr blynyddoedd 5 a 6 ar gyfer disgyblion sy'n mynd ymlaen i Ysgol Gyfun Gwynllyw. 6 o'r gloch yn neuadd Ysgol Gymraeg Cwmbrân. *
Dydd Mercher:
Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Sesiwn dawnsio disgo ar gyfer yr Eisteddfod. (3:30 - 4:30
Dydd Iau:
* Diwrnod y Llyfr *
Byddwn yn dathlu diwrnod y llyfr heddiw. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr heddiw os ydynt yn dymuno.
Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.
Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)
Diolch.