Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

14th February 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

* Wythnos Menter a Busnes *

Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a gweithdai yn ymwneud â menter a busnes a'r byd gyrfaoedd yr wythnos hon.

Mae disgyblion blwyddyn 6 yn trefnu boreau coffi bob bore rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener er mwyn dathlu Dydd Gwyl Dewi. Dewch i ymuno gyda ni i'w cefnogi.

Dydd Llun:

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Clwb chwaraeon yr Urdd ar gyfer plant blwyddyn 2 rhwng 3:30 a 4:30.
(Mae'r clwb hwn yn cael ei redeg gan yr Urdd yn allanol.)

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Henllys a Nant Celyn yn dod i gael gwers Gymraeg yn yr ysgol heddiw.

Dydd Mawrth:

Bore Coffi rhwng 09:30 a 10:30.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (50c)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

Bore Coffi rhwng 09:30 a 10:30.

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

* Prynhawn Lles: Byddwn yn edrych ar ymgyrch 'Big Schools Birdwatch' yr RSPB yn ystod ein prynhawn lles heddiw. *

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Sesiwn dawnsio disgo ar gyfer yr Eisteddfod. (3:30 - 4:30

Dydd Iau:

Cystadleuaeth bêl-droed ar gyfer plant blynyddoedd 1 a 2 yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)

Cystadleuaeth bêl-droed yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)

Bore Coffi rhwng 09:30 a 10:30.

Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)

Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

Bore Coffi rhwng 09:30 a 10:30.

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr